Oddi wrth:  Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth
At:               Aelodau'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Dyddiad:     09 Hydref 2013

Y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) - y Drefn Ystyried yng Nghyfnod 2

 

Camau i’w cymryd

1.     Gofynnir i’r Pwyllgor gytuno ar y drefn ystyried ar gyfer Cyfnod 2 y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

Cefndir

2.     Ar ôl i'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (“y Bil”) gael ei gyflwyno ar 28 Ionawr 2013, cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Bil at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol (“y Pwyllgor”) er mwyn craffu arno yng Nghyfnod 1 a Chyfnod 2.  Yn ystod Cyfnod 1, rhoddwyd dau estyniad i'r Pwyllgor ar gyfer cyhoeddi ei adroddiad Cyfnod 1.  Ymestynnwyd y dyddiad cau ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 2 o 18 Hydref 2013 i 13 Rhagfyr 2013.  Rhagwelir y bydd nifer fawr o welliannau'n cael eu cyflwyno yn ystod Cyfnod 2.

Y drefn ystyried

3.     Y drefn ystyried yw'r drefn y gosodir adrannau ac atodlenni'r Bil er mwyn gwaredu gwelliannau[1].  Y drefn ystyried (sy'n cael ei phennu gan y Pwyllgor) a'r grwpiau (sy'n cael eu pennu gan y Cadeirydd[2]) a fydd yn pennu ym mha drefn y bydd gwelliannau'n cael eu trafod.

4.     O dan y Rheolau Sefydlog:

Mae’r gwelliannau i’w gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil, oni bai bod y pwyllgor sy’n ystyried trafodion Cyfnod 2 wedi penderfynu fel arall.[3]

5.     Mae hyn yn golygu y caiff pwyllgor sy'n ymgymryd â gwaith craffu yng Nghyfnod 2 amrywio'r drefn y bydd yr adrannau ac atodlenni'n cael eu hystyried.

6.     Oherwydd natur thematig y Bil, mae'n debyg y bydd gwelliannau sy'n effeithio ar adrannau gwahanol y Bil yn cael eu grwpio ar gyfer eu trafod. O dan y drefn ystyried ddiofyn o dan y Rheolau Sefydlog, gallai hyn olygu na fydd gwelliannau a drafodwyd fel rhan o grŵp cynnar yn cael eu gwaredu tan yn hwyr yn y drefn ystyried. Oherwydd y tebygolrwydd y bydd angen mwy nag un cyfarfod i waredu'r nifer o welliannau a ddisgwylir, mae'n bosibl y bydd gwelliannau'n cael eu trafod mewn un cyfarfod ond yn cael eu gwaredu mewn cyfarfod diweddarach. 

7.     Er mwyn osgoi’r tebygolrwydd o hyn, gofynnir i’r Pwyllgor ystyried rhoi’r adrannau a’r atodlenni mewn trefn a fyddai'n peri i'r atodlenni gael eu hystyried yn syth ar ôl yr adran sy'n eu cyflwyno, ac ystyried ymdrin â gwelliannau i Adran 1, sy'n adran drosolwg, yn olaf, ar ôl i'r gwelliannau o sylwedd i weddill y Bil gael eu gwaredu:

a.    Adrannau 2 - 69

b.   Atodlen 1

c.    Adrannau 70-119

d.   Atodlen 2

e.    Adrannau 120-160

f.     Atodlen 3

g.   Adrannau 161-169

h.   Adran 1

i.     Teitl hir

Mesurau eraill

8.     Er mwyn gwneud y trafodion yn fwy eglur, mae nifer o fesurau eraill yn cael eu hystyried, gan gynnwys:

a.    isddosbarthu grwpiau thematig yn ôl lleoliad gwelliannau yn y Bil i leihau'r bwlch posibl rhwng trafod y gwelliannau a’u gwaredu; a

b.   ailystyried y modd y cyflwynir gwybodaeth i'r Aelodau ac i'r cyhoedd cyn trafodion Cyfnod 2 ac yn ystod y trafodion hyn, a'r posibilrwydd o ddarparu gwybodaeth ychwanegol, neu gyflwyno gwybodaeth yn well.

Dyddiadau cyfarfodydd Cyfnod 2

9.     Bwriedir cynnal y ddadl Cyfnod 1 ar 8 Hydref.  Os bydd y Cynulliad yn cymeradwyo egwyddorion cyffredinol y Bil, bydd Cyfnod 2 yn dechrau ar 9 Hydref; wedi hynny, caiff unrhyw Aelod gyflwyno gwelliannau.  Rhaid i o leiaf 15 diwrnod gwaith fynd heibio rhwng dechrau Cyfnod 2 a'r cyfarfod cyntaf y bydd gwelliannau'n cael eu hystyried[4], a rhaid cyflwyno gwelliannau o leiaf bum diwrnod gwaith cyn y maent i fod i gael eu hystyried[5].  Yr arfer sydd wedi datblygu yw bod Gweinidogion Cymru yn cyflwyno gwelliannau i Filiau Llywodraeth ddau ddiwrnod gwaith cyn y dyddiad cau pum diwrnod.

10.  Yr amserlen arfaethedig ar gyfer trafodion Cyfnod 2, yn amodol ar nifer a natur y gwelliannau a gyflwynir, fydd:

 

Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno

Dyddiad y cyfarfod

Llywodraeth Cymru

Aelodau

Dydd Mercher 13 Tachwedd

Dydd Llun 4 Tachwedd

Dydd Mercher 6 Tachwedd

Dydd Mercher 27 Tachwedd

Dydd Llun 18 Tachwedd

Dydd Mercher 20 Tachwedd

Dydd Iau 5 Rhagfyr

Dydd Mercher 27 Tachwedd[6]

Dydd Iau 28 Tachwedd

Dydd Mercher 11 Rhagfyr [7]

Dydd Llun 2 Rhagfyr

Dydd Mercher 4 Rhagfyr

 

11.  Ar ôl pob cyfarfod, bydd modd cyflwyno gwelliannau unwaith eto, ond dim ond i'r adrannau neu atodlenni o'r Bil na farnwyd eto eu bod wedi'u cytuno. Bydd yr Aelodau hefyd am gadw mewn cof na fydd gwelliannau’n dderbyniadwy os ydynt yn anghyson â’r penderfyniadau a wnaed eisoes yn ystod trafodion Cyfnod 2.[8] Felly, anogir yr Aelodau i gyflwyno pob gwelliant y maent yn dymuno eu cyflwyno cyn y cyfarfod cyntaf y bydd gwelliannau'n cael eu hystyried.



[1] Caiff gwelliant ei waredu pan wneir penderfyniad arno; fel arall, nid yw'n cael ei gynnig neu caiff ei dynnu'n ôl.

[2] Rheol Sefydlog 26.64

[3] Rheol Sefydlog 26.21

[4] Rheol Sefydlog 26.17

[5] Rheol Sefydlog 26.59

[6] Newidwyd y dyddiad cau ar gyfer gwelliannau'r Llywodraeth i beri iddo fod ar ôl y cyfarfod a gynhelir ddydd Mercher 27 Tachwedd.

[7]Ar sail yr hyn a ddeellir ar hyn o bryd ynghylch nifer y gwelliannau a ddisgwylir, amcangyfrir y bydd ystyriaeth Cyfnod 2 yn cael ei chwblhau ddydd Iau 5 Rhagfyr.  Mae cyfarfod dydd Mercher 11 Rhagfyr wedi'i neilltuo fel bod cyfarfod wrth gefn.  Dylai'r Aelodau nodi bod y dyddiadau cau i gyflwyno gwelliannau ar gyfer 11 Rhagfyr cyn y cyfarfod ar 5 Rhagfyr, gan olygu na fyddai modd cyflwyno gwelliannau pellach ar ôl y cyfarfod ar 5 Rhagfyr.

[8] Rheol Sefydlog 26.61(iv)